Y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid
Dydd Mercher 21 Medi 2016 12:00 – 13:00
Ystafell Gynadledda C, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Croeso ac ymddiheuriadau -Darren Millar
Cafwyd ymddiheuriadau gan:
· John Griffiths AC
· Yr Athro F David Rose, Cydlynydd UNSWIS
Yn bresennol:
Geraint Jones |
CAIS – Change Step |
John Skipper |
Cyn-filwr |
Richard Mottershead |
Prifysgol Caer |
Nick Beard Stephen Joseph |
Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid Cymru Cymdeithas LLuoedd wrth Gefn a Chadetiaid Cymru |
David Price |
Partneriaeth Cyn-filwyr Cymru |
Ty Harrison |
Y Lleng Brydeinig Frenhinol |
Dave Ireland |
Step Change |
Cyrnol Lance Patterson |
Brigâd 160 y Troedfilwyr a Phencadlys Cymru |
Kieran Meredith |
David Melding AC |
Y Cadlywydd Steve Henaghen |
Rheolaeth Ranbarthol y Llynges Frenhinol |
Adrian Warner |
VAPC a SAFA |
Mike Mailey |
Gwasanaeth lles cyn-filwyr yr MOD |
Peter Evans |
Y Lleng Brydeinig Frenhinol |
Neil Kitchiner |
GIG Cyn-filwyr Cymru |
Sam Gould |
Nathan Gill AC |
Nathan Gill AC |
Rhanbarth Gogledd Cymru, UKIP |
Lee Waters AC |
Llanelli, Llafur Cymru |
Andrew RT Davies |
Canol De Cymru, Ceidwadwyr Cymru, |
|
|
Darren Millar AC |
Cadeirydd |
Mia Rees |
Ysgrifennydd |
Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:
· Ethol Cadeirydd – Enwebwyd Darren Millar gan Nathan Gill– nid oedd unrhyw wrthwynebiad ac ailetholwyd Darren Millar
· Ethol Ysgrifennydd –Enwebwyd Mia Rees gan Nathan Gill – nid oedd unrhyw wrthwynebiad ac ailetholwyd Mia Rees
Rhaglen ehangu'r Cadetiaid – Y Cyrnol Nick Beard, Prif Weithredwr, a Stephen John, Swyddog Ehangu Cadetiaid mewn Ysgolion, y ddau o Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCAW)
(Rhagor o wybodaeth yn y cyflwyniad PowerPoint)
· Yn dilyn cam 2 o Gronfa Libor, mae Cymru yn awr yn rhan o'r cynllun
· Y nod yw cynnwys 10 o ysgolion yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf
· Mae’r Cadetiaid yn bwydo i adolygiad Donaldson
· Mae RFCAW yn cydnabod nad yw’r rhaglen yn addas ar gyfer pob ysgol
· Cysylltiadau â Diploma Cenedlaethol BTEC
· Cymorth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) a RFCAW
· Mae’n hynod o bwysig bod cefnogaeth ar bob lefel yn yr ysgol – Pennaeth / Llywodraethwyr / athrawon
· Ystyried sefydlu Llu Cadetiaid Cyfun (CCF) mewn ardaloedd difreintiedig – awgrym ei fod yn gwella presenoldeb
· Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn targedu pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
· Awyddus i ysgolion i fynegi diddordeb
· Y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n dewis ysgolion yn pen draw
· Ar hyn o bryd mae 6 CCF yng Nghymru
o 3 ysgol breifat a 3 ysgol wladol
· Y tri gwasanaeth
· Gweithio gyda hyfforddwr staff sydd â phrofiad o’r lluoedd arfog
Cwestiynau
Darren Millar: Targedu ardaloedd
· Ardaloedd difreintiedig
· Cysylltu ag ysgolion, ACau ac ASau ynghyd â hyrwyddwyr y lluoedd arfog
Lee Waters AC: Pam targedu ardaloedd difreintiedig?
· Creu cyfleoedd
· Helpu gyda sgiliau
· Cyfleoedd gwaith
Cysylltodd y Cyrnol Lance Patterson y pryder hwn â phryderon a godwyd yn y gorffennol ynglŷn â’r lluoedd arfog yn 'recriwtio' mewn ysgolion. Mae angen cyflwyno neges glir mai dysgu sgiliau yw’r nod yn hytrach na recriwtio.
Darren Millar: A oes nifer gyfyngedig o ysgolion yn cael bod yn rhan o'r cynllun?
· Oes, mae cyfyngiad ar nifer y lleoedd y tro hwn ond gall ysgolion aflwyddiannus gael eu cynnwys yn yr ail gylch.
Trafodaeth ynghylch cysylltu’r CCF â’r catrodau Cymreig.
Nathan Gill AC: 5 mlynedd o CCF ond faint o arian?
· Arian LIBOR ar gael yn awr
· Gweithio i gael arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y dyfodol
· Dechrau gyda phobl ifanc 13 oed a gweithio gyda’r CCF am y pum mlynedd wedyn
Cyrnol Lance Patterson: Beth am golegau 6ed dosbarth?
· Yn aml iawn, gall disgyblion 6ed dosbarth a fu’n cymryd rhan mewn CCF tra oeddent yn yr ysgol gael eu rhyddhau am ddiwrnod.
Darren Millar: A all Aelodau’r Cynulliad helpu?
· Gallant siarad â’u hysgolion lleol.
Cam i’w gymryd: Llythyr i bob ysgol uwchradd yn etholaeth Darren
Gwaith Step Change gyda chyn-filwyr - Geraint Jones o CAIS
(Mae rhagor o wybodaeth yn y cyflwyniad PowerPoint)
· Cyflwyniad ar gefndir Geraint
o Nyrs seiciatrig sydd â phrofiad o weithio gyda chyn-filwyr
· Brasun o hanes Step Change
o Cymerodd yr awenau gan gorff a oedd yn methu
o Canolbwyntio ar Ogledd Cymru
o Adborth gan gyn-filwyr
o Roedd CAIS wedi gweithio gyda phobl sy'n dibynnu ar alcohol a chyffuriau – adeiladodd Step Change ar y wybodaeth hon
o Arian LIBOR – llwyddiant am 2 flynedd
o Gweithio mewn partneriaeth yn allweddol
§ Veterans UK
§ GIG Cyn-filwyr Cymru
· Nid dim ond un broblem sydd gan gyn-filwyr– ee digartrefedd – mae ganndynt broblemau nifeus y mae angen ymdrin â nhw.
· Mae 1037 o gyn-filwyr wedi cysylltu â Step Change
· Mae'r rhan fwyaf yn eu hatgyferio’u hunain
· Mae siarad â chyn-filwyr eraill am eu problemau yn allweddol i’r modd y mae Step Change yn gweithio ac i’w lwyddiant
· Iechyd meddwl yw ein problem fwyaf o bell ffordd.
· Mae cyn-filwyr yn awyddus i fod yn yr awyr agored yn gwneud pethau
· Mae 8000 o sylwadau ar Facebook
· Mae nifer dda o adolygiadau ehangach wedi cydnabod llwyddiant Step Change
· Bydd arian LIBOR yn parhau am 2/3 blynedd arall
Darren Millar: Roedd yn canmol llwyddiant parhaus Step Change
Nid yw Step Change yn cael arian gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n gysylltiedig â’r rhan fwyaf o’r meysydd datganoledig.
CAMAU I’W CYMRYD: Llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt roi arian cyfatebol gan gynnwys tystiolaeth gan y Lluoedd Arfog, Mind a Chaer.
Rhoedd Lles Cyn-filwyr Cymru yn gefnogol i Step Change
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Lluoedd Arfog y Cynulliad a Chynllun Llwybr Gofal y Lluoedd Arfog - Cyrnol Lance Patterson
Adborth a sylwadau o Gynhadledd Cyfamod y Lluoedd Arfog
· Roedd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn Llywodraeth Cymru ac sy’n arwain y polisi’n ymwneud â’r Lluoedd Arfog yng Nghymru a chyn-filwyr, yn bresennol a siaradodd yn y gynhadledd
· Cwmni PJ Rees – Paul Matthews – tynnwyd sylw at y cwmni fel enghraifft o’r modd y gall busnesau weithio gyda chyn-filwyr – gwobr aur am y gwaith
CAMAU I’W CYMRYD: Llythyr yn llongyfarch PJ Rees
(SYLWCH: Aros am gadarnhad o’r enw a’r busnes gan y gall fod yn anghywir)
Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn gell i wneud yn siŵr bod y Weinyddiaeth yn ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru.
Cynllun y Cynulliad i drefnu ymweliadau â’r Lluoedd Arfog
· Mabwysiadu model llai ffurfiol o gynllun San Steffan.
· 5 AC bob blwyddyn
· Cafwyd braslun o’r cynllun a’r modd y mae’n gweithio
· Cyfeiriwyd at ymweliad llwyddiannus Aelodau ag RAF y Fali yn y gorffennol
· Ymweliad nesaf: 20 Hydref – Patrol y Cambrian
· Ymweliad â’r RAF yn y Fali: Gwanwyn 2017
· Ymweld â’r Llynges – ystyried gwahodd Aelodau'r Cynulliad pan fydd llong wedi docio ym Mae Caerdydd
Lansio cynllun llwybr y lluoedd arfog
· 29 Medi
· Lansiad tair haen
· Y syniad yw ennyn didordeb pobl yn y Lluoedd Arfog
· Cwrs am y Lluoedd Arfog i bobl ifanc 14 - 17 oed
· Hyfforddiant a lleoliad i bobl ifanc 18 - 24 oed
· Cynllun meithrin sgiliau – i'r rheini yn y gwasanaeth, cyn-filwyr a'r lluoedd wrth gefn
· Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn dibynnu’n bennaf ar arian gan yr UE
CAMAU I’W CYMRYD: Atgoffa Aelodau'r Cynulliad am y cynllun i ymweld â’r Lluoedd Arfog
Unrhyw fater arall
Mia Rees: Roedd angen i bawb wneud yn siŵr eu bod wedi llofnodi'r daflen bresenoldeb ac wedi rhoi eu cyfeiriad e-bost gan fod problemau wedi codi gyda nifer o gyfeiriadau e-bost.
Mia Rees: Adborth a’r wybodaeth ddiweddaraf gan yr Athro F David Rose, Cydlynydd UNSWIS
1- Mae UNSWIS wedi cael arian am flwyddyn arall gan y Lleng Brydeinig Frenhinol (o 1 Hydref).
2- Ers i David roi ei gyflwyniad byr i’r grŵp trawsbleidiol, mae’n falch o ddweud bod y prifysgolion a ganlyn wedi ymuno â rhwydwaith UNSWIS: Caerdydd, Glyndŵr a’r Drindod Dewi Sant. Mae Prifysgolion Aberystwyth a De Cymru eisoes yn aelodau felly mae gan UNSWIS bresenoldeb da yng Nghymru. Maent wedi gwahodd Prifysgol Abertawe i ymuno â ni ond mae’n dal i aros am ymateb.
John Skipper:
Cyfathrebu ar draws cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae angen adolygu’r fforymau a’r hyrwyddwyr.
Beth y maent yn ei wneud ac a ydynt i gyd yn siarad â’i gilydd?
Ystyried y grŵp arbenigol a’i gyfansoddiad.
CAMAU I’W CYMRYD: Ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau sydd newydd ei sefydlu.
Daeth y cyfarfod i ben am 13.25pm
Mae’r sleidiau PowerPoint a’r wybodaeth a rannwyd yn ystod y cyfarfod llawn ar gael ar gais.